Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 6 Mai 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.32 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC (yn lle Alun Ffred Jones AC) William Graham AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Jones, Cadeirydd, Colegau Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. Roedd Jocelyn Davies yn dirprwyo ar ei ran.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
3 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a nododd nad oedd yn darparu gwybodaeth am y gost o ddiogelu cyflogau yn GIG Cymru (Argymhelliad 12). Gofynnodd yr Aelodau i'r Archwilydd Cyffredinol edrych ar y mater hwn fel rhan o'r gwaith pellach y mae wedi ymrwymo i'w wneud.
4 Cyflogau Uwch-reolwyr: Sesiwn dystiolaeth 5
4.1 Bu'r pwyllgor yn holi Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr a Chadeirydd Colegau Cymru, ar gyflogau uwch-reolwyr.
4.2 Cytunodd Mark Jones i anfon y wybodaeth ganlynol:
· manylion pellach am sut y cyrhaeddwyd y ffigurau ar gyfer Coleg Catholig Dewi Sant a Choleg Gwent;
· beth yw 'benefit in kind';
· yr adroddiad meincnodi diweddaraf gan Gymdeithas y Colegau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Cyflogau Uwch-reolwyr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.2 Gofynnodd yr Aelodau fod y Gwasanaeth Ymchwil a/neu Swyddfa Archwilio Cymru yn ystyried a yw uno'r colegau wedi arwain at gynnydd mewn cyflogau penaethiaid.
7 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Yn amodol ar un newid bach, cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft.